For the first time, in 2020 Menter iaith Bangor and other partners are launching a brand new competition for eateries in the High Street and Upper Bangor (cafes, takeaways, restaurants and pubs serving food).
The ‘Best Welsh eateries in Bangor’ will be awarded in the 4 following categories:
Category One: Welsh Welcome
Where Welsh speaking staff welcome, speak and take food and drink orders from customers in Welsh, and answer telephone calls and deal with enquiries and bookings for a table or ordering food in Welsh.
Category Two: Visual use of Welsh
Such as signage, and ‘Working Welsh’ staff badges and lanyards, Welsh and bilingual menus and posters, website and fb page.
Category Three: Welsh atmosphere
Such as playing background Welsh medium music and music from Wales and provide Welsh and bilingual magazines for customers to read whilst enjoying an eating or drinking experience or waiting for an order.
Category Four: Offering Welsh products and recipes
In the menu in terms of meals and drinks and orders for sale to take out.
Therefore this is an official invitation to all High Street and Upper Bangor eateries to participate in the competition.
To take part please email dylanbrynroberts@gwynedd.llyw.cymru or call 01248 370 050 by Friday 10th January 2020.
All competing eateries will receive posters for public display promoting their specific competing category and detailing how customers can score their performance.
For more information about the competition, contact Dylan Bryn Roberts, Menter iaith Bangor’s Language Development Centre Officer.
dylanbrynroberts@gwynedd.llyw.cymru 01248 370 050
We will publish further information including the prizes on offer early in 2020. In the meantime, we look forward to hearing from you soon.
WELSH IN BANGOR AND GWYNEDD
Did you know…?
- That Bangor is Wales’s most Welsh speaking city with around 50% of all its residents having some skills in Welsh,
- That Gwynedd is Wales’ most Welsh speaking county with 65% of all its residents able to speak Welsh.
- That 3,000 of Bangor University’s students speak Welsh.
- That around 70% of all weekend visitors to Bangor speak Welsh.
Therefore by showing…
Respect, goodwill and support towards the Welsh Language,
Encouraging any staff who can speak Welsh to use it with customers and
Use Welsh on menus and on signage,
eateries will gain Welsh speaking customers support and customers from far and wide who like to see and hear Welsh. They’re also more likely to return time and time again and become new regular customers. Remember that customers support businesses who use Welsh. It confirms support for the local community and people. Use your Welsh!
For further advice and guidance please contact Mari Elen Hughes, Gwynedd a Môn Welsh in Business Officer.
elen.hughes@businesswelsh.wales 01248 725700 / 715
Cystadleuaeth ‘Bwytai Cymreig Gorau ym Mangor’
Am y tro cyntaf, yn 2020 bydd Menter Iaith Bangor a phartneriaid eraill yn lawnsio cystadleuaeth newydd sbon ar gyfer tai bwyta ar y Stryd Fawr ac ym Mangor Uchaf (caffis, takeaways, tai bwyta a thafarndai sy’n cynnig bwyd). Dyfernir y ‘Bwytai Cymreig Gorau yn Mangor’ yn ôl y 4 categori canlynol:
Categori Un: Croeso Cymreig
Lle mae staff Cymraeg yn croesawu, siarad a chymryd archebion bwyd a diod gan gwsmeriaid yn y Gymraeg, ac yn ateb galwadau ffôn gan ddelio ag ymholiadau ac archebu bwrdd neu fwyd yn y Gymraeg.
Categori Dau: Defnydd gweledol Cymreig
Megis arwyddion, lanyards a bathodynnau staff ‘Iaith Gwaith’, bwydlenni neu bosteri Cymraeg a dwyieithog, gwefan a thudalen fb.
Categori Tri: Naws Cymreig
Megis chwarae cerddoriaeth gefndirol Gymraeg a Chymreig a darparu chylchgronau Cymraeg a dwyieithog i gwsmeriaid eu darllen tra’n mwynhau’r profiad o fwyta ac yfed neu ddisgwyl am archeb.
Categori Pedwar: Cynnig cynnyrch a ryseitiau Cymreig
Yn y fwydlen o ran prydau bwyd a diodydd ac archebion ar werth i fynd adre’.
Felly dyma wahoddiad swyddogol i holl fwytai Stryd Fawr a Bangor Uchaf i gystadlu. I gymryd rhan e-bostiwch dylanbrytnroberts@gwynedd.llyw neu ffoniwch 01248 370050 cyn dydd Gwener 20fed o Ragfyr, os gwelwch yn dda. Ddim yn siŵr eto? Darllenwch ‘Y Gymraeg ym Mangor a Gwynedd’ yn Atodiad A isod.
Bydd pob bwyty sy’n cymryd rhan yn derbyn posteri i’w harddangos yn y bwyty yn hyrwyddo categori perthnasol y gystadleuaeth a manylion ynglŷn a sut all cwsmeriaid sgorio’u perfformiad.
Am fanylion pellach ynglŷn a’r gystadleuaeth cysylltwch â Dylan Bryn Roberts, Swyddog Canolfan Datblygu Iaith Menter Iaith Bangor.
dylanbrynroberts@gwynedd.llyw.cymru 01248 370 050
Byddwn yn cyhoeddi manylion pellach gan gynnwys y gwobrwyon ar gael yn fuan yn 2020. Yn y cyfamser, edrychwn ymlaen at glywed ganddoch yn fuan.
Y GYMRAEG YM MANGOR A GWYNEDD
A wyddoch chi…?
Mai Bangor yw dinas Gymreiciaf Cymru gydag oddeutu 50% o’i holl drigolion hefo rhyw sgiliau Cymraeg.
Mai Gwynedd yw sir Cymreiciaf Cymru gyda 65% o’r holl drigolion yn siarad Cymraeg.
Fod 3,000 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn siarad Cymraeg.
Fod oddeutu 70% o ymwelwyr penwythnos i Bangor yn siarad Cymraeg.
Felly trwy ddangos…
parch, ewyllys da a chefnogaeth i’r Gymraeg,
annog unrhyw staff sy’n gallu’r Gymraeg i’w defnyddio hefo cwsmeriaid a
defnyddio’r Gymraeg ar fwydlenni ac ar arwyddion,
mae bwytai yn ennill cefnogaeth cwsmeriaid Cymraeg a chwsmeriaid o bell ac agos sy’n hoffi gweld a chlywed yr iaith. Maent hefyd yn fwy tebygol o ddod yn ôl dro ar ôl tro a dod yn gwsmeriaid rheolaidd newydd. Cofiwch fod cwsmeriaid yn cefnogi busnesau sy’n defnyddio’r Gymraeg. Mae’n datgan cefnogaeth i’r gymuned a’r bobl leol. Defnyddiwch eich Cymraeg!
Am gyngor ac arweiniad pellach cysylltwch â Mari Elen Hughes, Swyddog Cymraeg Byd Busnes Gwynedd a Môn.
elen.hughes@businesswelsh.wales 01248 725700 / 715