Bangor University is delighted to announce the return of weddings to its historic campus, offering couples the chance to celebrate their big day in one of North Wales’ most breathtaking and iconic settings. With a range of stunning venues including Prichard Jones Hall, Powis Hall, the Menai Suite, and Hugh Owen Hall, the university now offers flexible options for ceremonies and receptions of all styles and sizes.
To mark the relaunch, a brand-new website is now live at www.bangor.ac.uk/weddings, showcasing the venues, real wedding inspiration, and everything you need to start planning your perfect day.
“We’re incredibly excited to welcome weddings back to Bangor University, each of our venues offers something unique – from grand and formal to intimate and contemporary – all set against the spectacular backdrop of the Menai Strait and Eryri (Snowdonia). It’s a truly unforgettable location for any celebration,” said Ffion Jones, Business Development Manager.
With panoramic views, striking architecture, and a dedicated in-house team to support couples every step of the way, Bangor University offers a truly one-of-a-kind wedding experience. The venues can accommodate ceremonies of up to 200 guests and, depending on which venue you choose wedding breakfasts from 40 up to 240 guests, providing plenty of flexibility whether you’re planning an intimate gathering or a large celebration.
Wedding packages are available upon enquiry, and bookings are now open for 2025 and beyond.
To find out more, explore the venues or arrange a viewing, visit www.bangor.ac.uk/weddings or follow Bangor University Weddings on social media.
Facebook: @WeddingsBangor
Instagram: @priodasauweddingsbangor
TikTok: @priodasauweddings
—
Priodasau’n dychwelyd i Brifysgol Bangor: Pennod newydd yn dechrau yn un o leoliadau mwyaf eiconig gogledd Cymru
Mae Prifysgol Bangor yn falch iawn o gyhoeddi bod priodasau’n dychwelyd i’w champws hanesyddol, gan gynnig cyfle i gyplau ddathlu eu diwrnod mawr yn un o leoliadau mwyaf godidog ac eiconig gogledd Cymru. Mae gan y brifysgol amrywiaeth o leoliadau trawiadol gan gynnwys Neuadd Prichard Jones, Neuadd Powis, Swît Menai a Neuadd Hugh Owen, ac mae’r brifysgol bellach yn cynnig dewisiadau hyblyg i seremonïau a derbyniadau o bob arddull a maint.
I nodi’r ail-lansio, mae gwefan newydd sbon bellach yn fyw yn www.bangor.ac.uk/priodasau, sy’n arddangos y lleoliadau ac yn cynnig ysbrydoliaeth a phopeth sydd ei angen arnoch i ddechrau cynllunio eich diwrnod perffaith.
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu priodasau yn ôl i Brifysgol Bangor, mae pob un o’n lleoliadau yn cynnig rhywbeth unigryw – yn lleoedd mawreddog a ffurfiol neu leoedd clud a chyfoes – ac mae pob un yn cynnig golygfeydd ysblennydd o’r Fenai ac Eryri. Mae’n lleoliad gwirioneddol fythgofiadwy i unrhyw ddathliad,” meddai Ffion Jones, Rheolwr Datblygu Busnes.
Gyda golygfeydd panoramig, pensaernïaeth drawiadol a thîm mewnol pwrpasol i gefnogi cyplau bob cam o’r ffordd, mae Prifysgol Bangor yn cynnig profiad priodas gwirioneddol unigryw. Gall y lleoliadau ddarparu lle i seremonïau gyda hyd at 200 o westeion ac, yn dibynnu ar ba leoliad y byddwch yn ei ddewis, brecwast priodas i o leiaf 40 a hyd at 240 o westeion, gan ddarparu digon o hyblygrwydd p’un a ydych yn cynllunio priodas fach neu ddathliad mawr.
Mae pecynnau priodas ar gael ar gais, a gallwch archebu yn awr ar gyfer 2025 a thu hwnt.
I gael gwybod mwy, dysgu am y lleoliadau neu drefnu apwyntiad i’w gweld, ewch i www.bangor.ac.uk/priodasau neu dilynwch Bangor University Weddings ar y cyfryngau cymdeithasol.
Facebook: @WeddingsBangor
Instagram: @priodasauweddingsbangor
TikTok: @priodasauweddings