Mae digwyddiadau yn cael eu trefnu eto ar gyfer Gŵyl Dewi Bangor, mae partneriaid fel Pontio, Castell Penrhyn, Storiel, M-SParc Ar y lon, Fran Wen, Cymraeg i Blant ac Eglwys Gadeiriol Bangor yn cynnal digwyddiadau gwahanol gyda ni ym Menter Iaith Bangor.
Mae yna sesiwn Taith Natur, Cân a Stori yn y Gadeirlan, Cwis, sgyrsiau am ddwyieithrwydd, Clonc a Lonc, gorymdaith, gweithdai i blant gyda Fran Wen ac M-SParc Ar y Lon.
Bydd y posteri a’r baneri o amgylch Bangor yn gofyn i bobl sganio’r cod QR i weld beth sy’n digwydd ar ein tudalen Facebook.
Rydym yn gofyn am help gyda’r orymdaith os oes unrhyw un eisiau trefnu a bod mewn siaced uwch-olau fel cennin pedr wych!
Os hoffech chi helpu ffoniwch 01248 370050 neu ebostiwch Mei ar neges@menteriaithbangor.cymru neu mae ein tudalen ar Facebook wrth gwrs.
—
Events are being organised again for Gŵyl Dewi Bangor, partners such as Pontio, Penrhyn Castle, Storiel, M-SParc Ar y lon, Fran Wen, Welsh for Children and Bangor Cathedral are holding different events with us in Menter Iaith Bangor.
There is a Nature Walk, Song and Story session in the Cathedral, Quiz, talks about bilingaualism, Jog and a Jangle, procession, workshops for children with Fran Wen and M-SParc Ar y Lon.
The posters and banners around Bangor will ask people to scan the QR code to see what is happening on our Facebook page.
We are asking for help with the parade if anyone want’s to marshall and be in a brilliantly, daffodil like, hi-viz jacket.
If you would like to help call 01248 370050 or email Mei at neges@menteriaithbangor.cymru or on our page is on Facebook

